Dirwy gan yr ICO i gwmni a wnaeth 75 miliwn o alwadau niwsans awtomataidd mewn pedwar mis

Gigacycle > Information & Guidance  > Dirwy gan yr ICO i gwmni a wnaeth 75 miliwn o alwadau niwsans awtomataidd mewn pedwar mis

Dirwy gan yr ICO i gwmni a wnaeth 75 miliwn o alwadau niwsans awtomataidd mewn pedwar mis

Company which made 75 million nuisance automated calls in four months is fined by the ICO

Mae cwmni a wnaeth 75 miliwn o alwadau niwsans mewn pedwar mis wedi cael dirwy o £350,000 gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Cafodd y galwadau marchnata awtomataidd eu gwneud gan Miss-sold Products UK Ltd rhwng 16 Tachwedd 2015 a 7 Mawrth 2016. Roedd y galwadau’n cynnwys negeseuon wedi’u recordio, yn bennaf i hybu hawliadau am iawndal PPI ond doedd gan y cwmni ddim cydsyniad gan y derbynwyr ar gyfer y galwadau marchnata, sydd yn erbyn y gyfraith.

Torrodd y cwmni’r gyfraith hefyd drwy fethu ag enwi’r sefydliad a oedd yn gwneud y galwadau, a defnyddiodd rifau sy’n cael eu galw’n rhifau ‘gwerth ychwanegol’ sy’n creu refeniw pan fydd unigolyn yn ffonio’r rhif, sef refeniw sydd wedyn yn cael ei ddyrannu a’i drosglwyddo i’r cwmnïau cysylltiedig ac i weithredwr y rhwydwaith.

Cafodd yr ICO 146 o gŵynion gan y cyhoedd ynghylch cwmni Miss-sold Products. Cafodd rhai eu galw sawl tro. Soniodd eraill am ragor o boendod gan eu bod yn gofidio y gallai galwadau yn hwyr y nos fod wedi bod yn alwadau gan aelodau o’r teulu neu bobl yr oedden nhw’n gofalu amdanyn nhw.

Roedd cyfarwyddwr cwmni Miss-sold – oedd â’i swyddfa gofrestredig yn Aberdaugleddau cyn symud yn 2017 i Darlington, County Durham – wedi gwneud cais am ei dynnu oddi ar Gofrestr Tŷ’r Cwmnïau ond mae’r ICO wedi atal yr ymgais tra caiff camau gorfodi eu cymryd. Y rheswm am hynny yw caniatáu i bob opsiwn gael ei ystyried ar gyfer adennill y gosb, ac er mwyn craffu’n llawn ar weithredoedd y cyfarwyddwr wrth redeg y cwmni.

Dywedodd Rheolwr Grŵp Gorfodi’r ICO, Andy Curry:

“Mae’r cwmni yma wedi mynd ati’n ddigywilydd i dorri’r gyfraith ar farchnata dros y ffôn, gan wneud peth wmbreth o alwadau busneslyd dros gyfnod byr o amser a heb unrhyw ymgais amlwg i sicrhau eu bod wedi cael cydsyniad y bobl roedden nhw’n aflonyddu arnyn nhw.

“Bydd yr ICO yn llawdrwm ar weithredwyr diegwyddor sydd am drin y gyfraith a chyhoedd y Deyrnas Unedig â dirmyg. Gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cynnig cynlluniau i roi rhwymedigaeth bersonol ar gyfarwyddwyr a hynny ar fyrder, i’w hatal rhag dianc heb gael eu cosbi ar ôl elwa ar alwadau a negeseuon testun niwsans.

“Os na fydd yna newid yn y gyfraith, bydd yr ICO yn parhau i’w chael yn anodd adennill cosbau, a bydd cyfarwyddwyr diegwyddor yn credu eu bod yn gallu dianc ar ôl peri niwsans i aelodau’r cyhoedd.”

Dyma rai o’r cwynion a gafwyd oddi wrth y cyhoedd am gwmni Miss-sold Products:

  • “Gan fod galwad yn dod gan y rhif yma bron bob dydd, mae wedi mynd yn boendod busneslyd a di-alw-amdano.”
  • “Dwi wedi bod yn cael galwadau gan y rhif yma ers misoedd lawer, bob dydd weithiau. Dwi’n teimlo’n gaeth iawn yn methu â’u hatal nhw rhag tynnu fy sylw i ac aflonyddu ar fy mhreifatrwydd i. Mae galwadau’n dod o ddau rif gwahanol.”
  • “Rwy’n cael o leiaf ddwy alwad y dydd, a mwy fel rheol, gan y cwmnïau PPI yma, er fy mod i bob amser yn blocio’r rhif cyn gynted ag y ca i alwad gan un ohonyn nhw. Mae hynny’n golygu bod fy rhif i’n cael ei werthu drwy’r amser ac mae’n fy ngwneud i’n ofidus iawn ac yn grac gwybod bod hyn yn digwydd i’m gwybodaeth bersonol heb fy nghaniatâd i.”
  • “Rwy’n ofalwr a phan fydd yna alwad gyda’r nos rwy’n poeni y gallai fod yn gysylltiedig â’r person rwy’n gofalu amdano. Mae’n boendod a dwy ddim wedi gofyn amdano.”
  • “Rŷn ni wedi bod yn cael galwadau ers sawl mis o’r rhif yma, maen nhw’n galw ddwywaith y dydd ac yn chwarae’r un negeseuon a dyw pwyso 9 hyd yn oed ddim yn stopio’r galwadau, er gwaetha’r addewid y byddai’n rhif ni’n cael ei dynnu. Mae’n anghyfleus iawn ac mae’n rhwystredig bod dim modd inni optio allan.”

Nodiadau i Olygyddion

  1. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnal hawliau gwybodaeth er lles y cyhoedd, gan annog cyrff cyhoeddus i fod yn agored a hybu preifatrwydd data i unigolion
  1. Mae gan yr ICO gyfrifoldebau penodol sydd wedi’u nodi yn Neddf Diogelu Data 1998, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003.
  1. Gall yr ICO weithredu i newid ymddygiad sefydliadau ac unigolion sy’n casglu, defnyddio a chadw gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn cynnwys erlyn troseddwyr, gwaith gorfodi annhroseddol ac archwilio. Mae gan yr ICO bŵer i roi dirwy ariannol ar reolwr data o hyd at £500,000.
  1. Mae Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data (GDPR) yr Undeb Ewropeaidd yn ddeddf newydd a fydd yn disodli Deddf Diogelu Data 1998 ac yn gymwys yn y Deyrnas Unedig o 25 Mai 2018 ymlaen. Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau na fydd penderfyniad y Deyrnas Unedig i ymadael â’r UE yn effeithio ar gychwyn y GDPR. Mae’r Llywodraeth yn cyflwyno mesurau sy’n ymwneud â hyn a diwygiadau ehangach ynglŷn â diogelu data mewn Bil Diogelu Data.
  1. Mae’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (PECR) yn cyd-fynd â’r Ddeddf Diogelu Maen nhw’n rhoi hawliau preifatrwydd penodol i bobl mewn perthynas â chyfathrebu electronig. Ceir rheolau penodol ynghylch:
  • galwadau, negeseuon ebost, negeseuon testun a negeseuon ffacs at farchnata;
  • cwcis (a thechnolegau tebyg);
  • cadw gwasanaethau cyfathrebu’n ddiogel; a
  • phreifatrwydd cwsmeriaid o ran data ar draffig a lleoliadau, biliau fesul eitem, adnabod llinellau, a chofnodion mewn cyfeiriaduron.

Rydym yn anelu at helpu sefydliadau i gydymffurfio â’r PECR a hybu arferion da drwy gynnig cyngor a chanllawiau. Byddwn yn cymryd camau gorfodi yn erbyn sefydliadau sy’n anwybyddu eu rhwymedigaethau’n barhaus.

  1. Mae Cosbau Ariannol Sifil (CMPs) yn dod o dan hawl i apelio i’r Siambr Reoleiddiol Gyffredinol (Tribiwnlys Haen Gyntaf) yn erbyn gosod y gosb ariannol a/neu swm y gosb a bennir yn yr hysbysiad cosb ariannol.
  1. Mae unrhyw gosb ariannol yn cael ei thalu i Gronfa Gyfunol y Trysorlys ac nid yw’n cael ei chadw gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
  1. I roi gwybod am bryder i’r ICO ffoniwch ein llinell gymorth ar 0303 123 1113 neu ewch i ico.org.uk/concerns.

Go to Source

No Comments

Sorry, the comment form is closed at this time.