Dirwyo cwmni yng Nghymru am anfon 4.4 miliwn o negeseuon testun sbam

Gigacycle > Information & Guidance  > Dirwyo cwmni yng Nghymru am anfon 4.4 miliwn o negeseuon testun sbam

Dirwyo cwmni yng Nghymru am anfon 4.4 miliwn o negeseuon testun sbam

ICO issues fines totalling £220,000 to nuisance marketing firms

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cymryd camau yn erbyn dau gwmni marchnata niwsans, gan barhau gyda’i frwydr yn erbyn cwmnïau sy’n wfftio’r rheolau.

Mae ymchwiliadau unigol gan yr ICO wedi arwain at ddirwy i PRS Media, yn masnachu fel Purus Digital, o £140,000 am anfon oddeutu 4.4 miliwn o negeseuon testun sbam a dirwyo Xternal Property Renovations £80,000 am wneud galwadau ffôn niwsans.

PRS Media

Canfu’r ICO nad oedd gan y cwmni o Ddyfed PRS Media, yn masnachu fel Purus Digital, gydsyniad y 4.4m o bobl yr oedd yn anfon negeseuon testun marchnata iddynt.

Dywedodd y cwmni, wedi ei leoli yn Dale yn Hwlffordd, bod yr wybodaeth a ddefnyddiwyd i anfon negeseuon testun wedi ei chasglu o’i wefan cystadlaethau ei hun.

Roedd rhaid i bobl gytuno i dderbyn deunydd marchnata fel amod o gystadlu mewn cystadlaethau ar wefan y cwmni. Nid yw hyn yn gydsyniad priodol.

Dywedodd polisi preifatrwydd y wefan wrth bobl y byddai eu manylion yn cael eu rhannu gyda thrydydd partïon, ond dywed y gyfraith nad yw hyn yn ddigon penodol.

Rhaid i bobl gydsynio i dderbyn negeseuon testun marchnata. Dywed y gyfraith bod yn rhaid i bobl wneud dewis penodol ynghylch cydsynio i farchnata neu beidio.

Xternal Property Renovations

Torrodd y cwmni o Glasgow Xternal Property Renovations y gyfraith trwy wneud dros 109,000 o alwadau i bobl wedi cofrestru gyda’r Gwasanaeth Dewis Ffôn (TPS).

Mae pobl sydd wedi cofrestru gyda’r TPS wedi optio allan o dderbyn galwadau marchnata.

Canfu’r ICO y dylai’r cwmni, sy’n darparu gwasanaethau cynnal a chadw a thrwsio eiddo, fod wedi sgrinio’r rhestr o bobl yr oedd yn bwriadu eu ffonio yn erbyn manylion tanysgrifwyr y TPS a sicrhau bod ei staff telewerthu yn gwybod sut i gydymffurfio â’r gyfraith.

Ymysg yr enghreifftiau o gwynion am y galwadau a wnaethpwyd gan Xternal Property Renovations mae:

  • “Dwi’n cael y galwadau hyn o’n gynnar yn y bore tan yn hwyr yn y nos. Dwi’n anabl ac yn poeni am y galwadau yma.”
  • “Roeddwn i’n poeni am sut gafodd y cwmni yma fy manylion – yn arbennig fy enw. Mae fy rhif wedi cofrestru gyda’r TPS a heb fod yn y llyfr ffôn ers dros 30 mlynedd.”

Mae Xternal Property Renovations hefyd wedi derbyn hysbysiad cyfreithiol yn ei orfodi i stopio gwneud galwadau marchnata anghyfreithlon.

Meddai Ken Macdonald, Pennaeth Rhanbarthau’r ICO:

“Mae marchnata niwsans, p’un a yw hynny’n alwadau i linell ffôn tir rhywun neu ffôn symudol, neu trwy negeseuon testun sbam, yn achosi amhariad, blinder ac, yn yr achosion gwaethaf, aflonyddiad difrifol.

“Rydym yn rhoi dirwyon fel hyn i gwmnïau sy’n gyfrifol am farchnata niwsans i anfon neges glir na fyddwn yn goddef gweithredu o’r fath.”

Ategodd:

“Mae’r ICO yn edrych ymlaen at gychwyn ein pwerau newydd, a gyhoeddwyd gan y llywodraeth y llynedd, a fydd yn ein caniatáu i ddirwyo cyfarwyddwyr cwmnïau marchnata niwsans yn ogystal â’r cwmnïau eu hunain. Bydd hyn yn ein galluogi i weithredu hyd yn oed fwy yn erbyn y cwmnïau sy’n achosi gofid ac yn amharu ar fywydau pobl.”

Cychwynnodd ymchwiliadau’r ICO i’r cwmnïau hyn yn dilyn cwynion gan y cyhoedd. Gall pobl adrodd am alwadau, negeseuon testun a negeseuon e-bost niwsans ar ico.org.uk/concerns. Gellir hefyd adrodd am negeseuon testun sbam trwy eu hanfon ymlaen at 7726.

Mae’r ICO wedi cyhoeddi canllaw manwl i gwmnïau sy’n cyflawni marchnata uniongyrchol

Nodiadau i Olygyddion

  1. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnal hawliau gwybodaeth er lles y cyhoedd, gan annog cyrff cyhoeddus i fod yn agored a diogelu preifatrwydd data i unigolion.
  2. Mae gan yr ICO gyfrifoldebau penodol a sefydlwyd yn y Ddeddf Diogelu Data 1998, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003.
  3. Gall yr ICO gymryd camau i newid ymddygiad sefydliadau ac unigolion sy’n casglu, defnyddio a chadw gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn cynnwys erlyniad troseddol, gorfodi nad yw’n droseddol ac archwilio. Mae gan yr ICO y grym i osod cosb ariannol ar reolydd data o hyd at £500,000.
  4. Rhaid i unrhyw un sy’n prosesu gwybodaeth bersonol gydymffurfio ag wyth egwyddor y Ddeddf Diogelu Data, sy’n sicrhau fod gwybodaeth bersonol:
    • yn cael ei phrosesu yn deg a chyfreithlon;
    • yn cael ei phrosesu at ddibenion cyfyngedig;
    • yn ddigonol, perthnasol a heb fod yn ormodol;
    • yn gywir a chyfredol;
    • yn cael ei chadw’n ddim hirach nag sydd angen;
    • yn cael ei phrosesu yn unol â’ch hawliau;
    • yn ddiogel; ac
    • wedi ei diogelu rhag cael ei throsglwyddo i wledydd eraill heb amddiffyniad digonol.
  5. Mae’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (PECR) yn cyd-fynd â’r Ddeddf Diogelu Data. Maent yn rhoi hawliau preifatrwydd penodol i bobl parthed cyfathrebu electronig. Mae yna reolau penodol ar:
    • alwadau, negeseuon e-bost, negeseuon testun a ffacsys marchnata;
    • cwcis (a thechnolegau tebyg);
    • cadw gwasanaethau cyfathrebu’n ddiogel; a
    • preifatrwydd cwsmeriaid parthed traffig a data lleoliad, biliau wedi eitemeiddio, adnabod llinellau a rhestrau cyfeiriaduron.

Ein nod yw helpu sefydliadau i gydymffurfio â’r PECR ac i hyrwyddo arfer da trwy gynnig cyngor ac arweiniad. Byddwn yn cymryd camau gorfodi yn erbyn sefydliadau sy’n anwybyddu eu rhwymedigaethau’n gyson.

  1. Mae Cosbau Ariannol Sifil (CMP) yn destun hawl i apêl i’r Siambr Reoleiddio Gyffredinol (Tribiwnlys Haen Gyntaf) yn erbyn cyhoeddi cosb ariannol ac/neu swm y gosb a ddynodwyd yn yr hysbysiad cosb ariannol.
  2. Telir unrhyw gosb ariannol i Gronfa Gyfunol y Trysorlys ac nid yw Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn cael ei gadw.
  3. I adrodd am bryder i’r ICO, ffoniwch ein llinell gymorth ar 0303 1231113 neu ewch i ico.org.uk/concerns.

Go to Source

No Comments

Sorry, the comment form is closed at this time.