Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn dirwyo ffyrmiau y tu ôl i 44 o negeseuon ebost sbam, 15 miliwn o alwadau niwsans a miliwn o negeseuon testun sbam

Gigacycle > Information & Guidance  > Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn dirwyo ffyrmiau y tu ôl i 44 o negeseuon ebost sbam, 15 miliwn o alwadau niwsans a miliwn o negeseuon testun sbam

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn dirwyo ffyrmiau y tu ôl i 44 o negeseuon ebost sbam, 15 miliwn o alwadau niwsans a miliwn o negeseuon testun sbam

Firms behind 44 million spam emails, 15 million nuisance calls and one million spam texts fined by the Information Commissioner’s Office

Mae pedwar cwmni fu’n tarfu ar fywydau pobl drwy farchnata niwsans wedi cael dirwyon gwerth cyfanswm o £600,000 gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Yn sgil cwynion gan y cyhoedd am y ffyrmiau, cynhaliodd yr ICO bedwar ymchwiliad, gan arwain at y dirwyon a ganlyn:

  • Barrington Claims Limited, gynt o Lanelli ond wedi’i gofrestru bellach ym Mhort Talbot: dirwy o £250,000 am fwy na 15 miliwn o alwadau awtomataidd,
  • Newday Limited o Lundain: dirwy o £230,000 am fwy na 44 miliwn o negeseuon ebost sbam,
  • Goody Market UK Limited o Lerpwl: dirwy o £40,000 am 111,367 o negeseuon testun sbam; a
  • TFLI Limited o Macclesfield: dirwy o £80,000 am fwy nag 1.19 miliwn o negeseuon testun sbam

Bu’r pedwar busnes i gyd yn torri’r gyfraith drwy beidio â sicrhau cytundeb pobl i gysylltu â nhw. Dylai sefydliadau sicrhau bob amser fod yr iaith sy’n cael ei defnyddio i roi cysyniad yn glir, yn hawdd i’w deall a heb gael ei chuddio mewn polisi preifatrwydd neu mewn print mân.

Dywedodd Andy Curry, Rheolwr Grŵp Gorfodi’r ICO:

“Chaiff cwmnïau ddim dianc ar ôl methu dilyn y rheolau sydd wedi’u bwriadu i warchod pobl rhag yr aflonyddwch ac weithiau’r trallod sy’n dod yn sgil galwadau, e-byst a negeseuon testun niwsans.

“Hoffwn annog pawb sy’n cael eu poeni gan waith marchnata niwsans i roi gwybod inni amdano. Drwy roi gwybod byddwch yn ein helpu i weithredu yn erbyn cwmnïau fel y rhai sydd wedi cael eu dirwyo heddiw, a rhoi stop ar y drafferth maen nhw’n ei chreu.”

Gall galwadau niwsans a negeseuon sbam drwy’r testun a’r ebost gael eu hysbysu drwy wefan yr ICO neu drwy ffonio 0303 123 1113. Gall defnyddwyr ffôn symudol roi gwybod am negeseuon testun sbam hefyd drwy anfon y neges ymlaen i 7726.

Mae’r ICO wedi cyhoeddi canllawiau manwl i gwmnïau sy’n gwneud gwaith marchnata, gan esbonio’u gofynion cyfreithiol o dan y gyfraith diogelu data a’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig. Mae’r canllawiau’n ymdrin â’r amgylchiadau lle caiff sefydliadau wneud gwaith marchnata dros y ffôn, drwy neges destun, drwy’r ebost, drwy’r post neu drwy’r ffacs.

Ceir crynodeb isod o sut y torrodd pob ffyrm y gyfraith:

Barrington Claims Limited

Dyfarnwyd bod Barrington Claims Limited wedi gwneud dros 15 miliwn o alwadau marchnata awtomataidd ynghylch PPI rhwng mis Chwefror 2016 a mis Mai 2016.

Cafodd cwynion eu gwneud i’r ICO am nifer y galwadau a’u natur berswadiol. Roedd y pryderon yn cynnwys:

“Dwi newydd ddod adre ar ôl llawdriniaeth fawr, ac mae’r galwadau hyn yn boendod ac yn ofid achos mae’n rhaid imi gadw’r ffôn yn rhydd ar gyfer y nyrsys ardal ac maen nhw’n deffro fi pan dwi angen cysgu.”

“Mae plentyn bach gen i ac un saith oed sy’n awtistig. Mae galwadau annisgwyl ar ffôn y tŷ yn deffro’r plant sy’n cysgu ac maen nhw’n gallu creu gofid i’r mab. Dyw hi ddim yn iawn.”

Methodd y ffyrm â dangos tystiolaeth i’r ICO eu bod wedi sicrhau cydsyniad y bobl a gafodd eu galw.

Dim ond i bobl sydd wedi rhoi gwybod i’r galwr eu bod yn cytuno i gael cyfathrebiad o’r fath gan y galwr, neu ar gais y galwr, y mae galwadau marchnata awtomataidd yn cael eu caniatáu. Rhaid i’r cydsyniad gael ei roi o wirfodd, a rhaid iddo fod yn benodol ac yn wybodus.

Newday Limited

Trefnodd Newday Limited, o Lundain, fod rhyw 44.7 miliwn o negeseuon ebost sbam wedi’u hanfon i hybu eu cynhyrchion ariannol rhwng mis Ebrill 2015 a mis Ionawr 2017.

Bu’n defnyddio ffyrmiau eraill i anfon y negeseuon at bobl a oedd wedi tanysgrifio i 16 o wefannau a oedd yn cael eu gweithredu gan y cwmnïau hynny.

Ond gwelodd ymchwiliad gan yr ICO fod Newday Limited heb wneud y gwiriadau priodol i sicrhau bod pobl wedi rhoi cydsyniad i gael yr e-byst.

Goody Market UK Limited

Mae Goody Market UK Limited, o Lerpwl, sy’n rhedeg gwefan cymharu yswiriant, wedi’i ddirwyo am anfon 111,367 o negeseuon testun sbam.

Mae’r ICO wedi gorchymyn iddo roi’r gorau i waith marchnata anghyfreithlon hefyd neu bydd yn wynebu achos cyfreithiol arall.

Cafodd y negeseuon sbam eu hanfon drwy ddefnyddio gwybodaeth pobl a gafwyd oddi wrth ffyrm arall ac a brynwyd ar ran Goody Market gan frocer data.

Methodd Goody Market UK â dangos tystiolaeth i’r ICO fod pobl wedi cytuno i gael negeseuon marchnata, gan fod y cwmni wedi dibynnu ar sicrwydd llafar gan y brocer data fod y manylion wedi’u defnyddio o’r blaen at ddibenion marchnata drwy neges destun.

TFLI Limited

Mae TFLI Limited, o Bollington ger Macclesfield, wedi’i ddirwyo am anfon rhyw 1.19 miliwn o negeseuon testun sbam i hyrwyddo gwefan fenthyciadau.

Cafodd 793 o gwynion eu gwneud am y negeseuon testun, a gafodd eu hanfon drwy ddefnyddio manylion personol a roddwyd gan gwmnïau eraill.

Dyfarnodd ymchwiliad gan yr ICO fod TFLI Limited yn esgeulus drwy beidio â chymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod pobl wedi cytuno i gael y negeseuon.

Nodiadau i Olygyddion 

  1. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnal hawliau gwybodaeth er lles y cyhoedd, gan annog cyrff cyhoeddus i fod yn agored a hybu preifatrwydd data i unigolion
  1. Mae gan yr ICO gyfrifoldebau penodol sydd wedi’u nodi yn Neddf Diogelu Data 1998, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig
  1. Gall yr ICO weithredu i newid ymddygiad sefydliadau ac unigolion sy’n casglu, defnyddio a chadw gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn cynnwys erlyn troseddwyr, gwaith gorfodi annhroseddol ac archwilio. Mae gan yr ICO bŵer i roi dirwy ariannol ar reolwr data o hyd at £500,000.
  1. Mae Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data (GDPR) yr Undeb Ewropeaidd yn ddeddf newydd a fydd yn gymwys yn y Deyrnas Unedig o 25 Mai 2018 ymlaen. Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau na fydd penderfyniad y Deyrnas Unedig i ymadael â’r UE yn effeithio ar gychwyn y GDPR. Mae’r Llywodraeth yn cyflwyno mesurau sy’n ymwneud â hyn a diwygiadau ehangach ynglŷn a diogelu data mewn Bil Diogelu Data.
  1. Mae’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (PECR) yn cyd-fynd â’r Ddeddf Diogelu Data. Maen nhw’n rhoi hawliau preifatrwydd penodol i bobl mewn perthynas â chyfathrebu electronig.

Ceir rheolau penodol ynghylch:

  • galwadau, negeseuon ebost, negeseuon testun a negeseuon ffacs at farchnata;
  • cwcis (a thechnolegau tebyg);
  • cadw gwasanaethau cyfathrebu’n ddiogel; a
  • phreifatrwydd cwsmeriaid o ran data ar draffig a lleoliadau, biliau fesul eitem, adnabod llinellau, a chofnodion mewn cyfeiriaduron.

Rydym yn anelu at helpu sefydliadau i gydymffurfio â’r PECR a hybu arferion da drwy gynnig cyngor a chanllawiau. Byddwn yn cymryd camau gorfodi yn erbyn sefydliadau sy’n anwybyddu eu rhwymedigaethau’n barhaus.

  1. Mae Cosbau Ariannol Sifil (CMPs) yn dod o dan hawl i apelio i’r Siambr Reoleiddiol Gyffredinol (Tribiwnlys Haen Gyntaf) yn erbyn gosod y gosb ariannol a/neu swm y gosb a bennir yn yr hysbysiad cosb ariannol.
  1. Mae unrhyw gosb ariannol yn cael ei thalu i Gronfa Gyfunol y Trysorlys ac nid yw’n cael ei chadw gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
  1. I roi gwybod am bryder i’r ICO ffoniwch ein llinell gymorth ar 0303 123 1113 neu ewch i ico.org.uk/concerns.

Go to Source

No Comments

Sorry, the comment form is closed at this time.